Lleoliad:
Ystafell Bwyllgora 1 - y Senedd
Dyddiad: Dydd Mawrth, 1 Mai 2018
Amser:
09.04 -
11.02
Gellir gwylio’r cyfarfod ar Senedd TV yn:
http://senedd.tv/cy/4755
------
Categori |
Enwau |
Aelodau’r Cynulliad: |
David J Rowlands AC (Cadeirydd) Rhun ap Iorwerth AC Mike Hedges AC Neil McEvoy AC |
Tystion: |
Nigel Brown, GCCLBT Cymru Albert Heaney, Llywodraeth Cymru Huw Irranca-Davies AC, Y Gweinidog Gofal Cymdeithasol a Phlant |
Staff y Pwyllgor: |
Graeme Francis (Clerc) Kathryn Thomas (Dirprwy Glerc) Lisa Salkeld (Cynghorydd Cyfreithiol) |
Croesawodd y Cadeirydd bawb i’r cyfarfod. Roedd Suzy Davies yn dirprwyo ar ran Janet Finch-Saunders o eitem 3.2.
Datganodd Neil McEvoy y buddiant perthnasol a ganlyn o dan Reol Sefydlog 17.24A:
Mae wedi gweithio fel athro cyflenwi o'r blaen.
Trafododd y Pwyllgor y ddeiseb am y tro cyntaf ac, yng ngoleuni'r ystod o faterion a phryderon a godwyd yn sgil y ddeiseb, cytunodd i ofyn i'r deisebwyr a oes atebion penodol i'r materion a godwyd yr hoffent i'r Pwyllgor eu trafod wrth barhau i ystyried y ddeiseb.
Trafododd y Pwyllgor y ddeiseb am y tro cyntaf a chytunodd ar y camau a ganlyn:
· gofyn i gael gwybodaeth am lefel y gefnogaeth sydd ar gael wrth addysgu Cymraeg i ddisgyblion â dyslecsia a'r hyn sy'n digwydd mewn achosion eithafol lle nodir bod disgybl yn cael trafferth dysgu ail iaith; ac
· aros am farn y deisebydd am yr ymateb gan Weinidog y Gymraeg a Dysgu Gydol Oes cyn penderfynu a ddylid cymryd rhagor o gamau ynghylch y ddeiseb.
Trafododd y Pwyllgor y ddeiseb hon am y tro cyntaf a chytunodd ar y camau a ganlyn:
· trafod y ddeiseb hon yn y dyfodol ochr yn ochr â P-05-810 Rhowch Gyfle i Glybiau Pysgota Cymru ac Eog a Brithyll y Môr;
· ysgrifennu at Ysgrifennydd y Cabinet dros Ynni, Cynllunio a Materion Gwledig i roi'r sylwadau manwl gan y deisebydd ar gyfer P-05-810 a gofyn am ddiweddariad ar ei hystyriaeth o gais Cyfoeth Naturiol Cymru i benderfynu ar is-ddeddfau.
Trafododd y Pwyllgor y ddeiseb hon am y tro cyntaf a chytunodd ar y camau a ganlyn:
Trafododd y Pwyllgor y ddeiseb am y tro cyntaf a chytunodd i ysgrifennu at Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid i:
· geisio ymateb i'r sylwadau manwl gan y deisebydd a'r dull amgen arfaethedig; a
· gofyn a yw Llywodraeth Cymru wedi gwneud asesiad o effaith cynlluniau ardystio megis Cynllun Ardystio Sgiliau Adeiladu (CSCS) ar gostau yswiriant i unigolion neu gwmnïau.
Trafododd y Pwyllgor sylwadau gan y deisebwyr a chytunodd i ysgrifennu at:
· Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a Thrafnidiaeth i rannu sylwadau'r deisebwyr a gofyn pryd, ac am ba resymau, y diwygiodd Llywodraeth Cymru ei pholisi mewn perthynas â chyllido'r broses o ddatblygu gorsaf newydd yn uniongyrchol; a
· Phwyllgor yr Economi, Seilwaith a Sgiliau i ofyn a yw’n bwriadu edrych ar fater cyllid Llywodraeth Cymru i ddatblygu gorsafoedd newydd yng Nghymru, gan gynnwys fel rhan o ystyried masnachfraint rheilffordd yn y dyfodol, neu a fyddai'n ystyried neilltuo amser i wneud hynny, yn ôl cais gan y deisebwyr.
Trafododd y Pwyllgor y wybodaeth ddiweddaraf gan y deisebwyr yn dilyn eu cyfarfod ag Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg a chytunodd i gadw golwg ar hyn ac aros am ddiweddariad arall gan y deisebwyr, cyn ystyried y ddeiseb eto.
Trafododd y Pwyllgor y ddeiseb hon ynghyd â P-05-765 Cadw canllawiau presennol ar gyfer Gwasanaethau Crefyddol a chytunodd ar y camau a ganlyn:
· ysgrifennu yn ôl at Ysgrifennydd y Cabinet i bwyso am ragor o eglurder ar yr amserlen ar gyfer darparu ymateb sylweddol; ac
· ystyried casglu rhagor o dystiolaeth ar ôl cael yr ymateb hwnnw.
Trafododd y Pwyllgor y ddeiseb hon ynghyd â P-05-757 Cael gwared ar y rhwymedigaeth ar ysgolion i gynnal gweithredoedd addoli crefyddol
a chytunodd ar y camau a ganlyn:
· ystyried casglu rhagor o dystiolaeth ar ôl cael yr ymateb hwnnw.
Nododd y Pwyllgor y byddai ganddo ddiddordeb mewn ystyried y materion a godwyd yn sgil y ddeiseb hon ymhellach a chytunodd i roi cyfle i'r deisebydd roi ei sylwadau mewn ymateb i'r ohebiaeth a gafwyd, ond cau'r ddeiseb yn y cyfarfod nesaf os na ddaw hyn i law.
Trafododd y Pwyllgor ohebiaeth gan Ysgrifennydd y Cabinet ynghyd â sylwadau eraill gan y deisebydd a chytunodd i ysgrifennu at Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg i ofyn:
· a fydd ei hymrwymiad i atgoffa Penaethiaid, ac eraill, o'u dyletswyddau yn y maes hwn ar ffurf nodyn cyngor yn ôl cais y deisebydd; ac
· iddi roi copi ohono i'r Pwyllgor pan fydd wedi'i lunio.
Cytunodd y Pwyllgor i aros am ymateb y deisebydd i Ddatganiad Ysgrifenedig Llywodraeth Cymru ar Bolisi Cyfiawnder yng Nghymru, a gyhoeddwyd ar 6 Ebrill, cyn ystyried rhagor o gamau ar y ddeiseb.
Trafododd y Pwyllgor ohebiaeth gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Lywodraeth Leol a Gwasanaethau Cyhoeddus a chytunodd i aros am farn y deisebydd am hynny, ac am Ddatganiad Ysgrifenedig Ysgrifennydd y Cabinet ar 23 Ebrill, cyn ystyried a ddylai gymryd rhagor o gamau mewn cysylltiad â'r ddeiseb.
Trafododd y Pwyllgor y dystiolaeth a ddaeth i law, a chytunodd ar y camau a ganlyn:
· ysgrifennu at Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol i ofyn pryd y disgwylir i'r Fframwaith Triniaethau Camddefnyddio Sylweddau gael ei gyhoeddi; a
· llunio llythyr drafft at Ysgrifennydd y Cabinet, gan amlinellu'r dystiolaeth a gafwyd ynghyd ag unrhyw argymhellion y bydd y Pwyllgor efallai am eu gwneud.
Trafododd y Pwyllgor y wybodaeth ddiweddaraf gan y deisebwyr a chytunodd i ysgrifennu'n ôl at Arweinydd y Tŷ a'r Prif Chwip a BT Openreach, i ofyn iddynt hwyluso'r broses o osod band eang cyflym i'r pentref o ystyried sicrwydd blaenorol ei fod wedi'i wneud.
Trafododd y Pwyllgor ohebiaeth gan Arweinydd y Tŷ a’r Prif Chwip ynghyd â sylwadau eraill gan y deisebydd a chytunodd ar y camau a ganlyn:
· annog y deisebydd i gyfrannu i'r ymgynghoriad ar y canllawiau drafft ar gyfer comisiynu gwasanaethau trais yn erbyn menywod, cam-drin domestig a thrais rhywiol yng Nghymru; ac
· ysgrifennu at Arweinydd y Tŷ i ofyn am sicrwydd y bydd Llywodraeth Cymru yn mynd ati i geisio barn y rhai y mae cam-drin domestig yn erbyn dynion yn effeithio arnynt ac adrodd yn ôl i'r Pwyllgor am sut y mae wedi mynd i'r afael â cham-drin domestig yn erbyn dynion fel rhan o'r ymgynghoriad.
Trafododd y Pwyllgor ohebiaeth gan y Gweinidog Plant a Gofal Cymdeithasol a chan Gadeirydd y Pwyllgor Iechyd, Gofal Cymdeithasol a Chwaraeon, a chytunodd i aros am farn y deisebwyr am yr atebion a roddwyd gan y Gweinidog cyn ystyried cymryd rhagor o gamau mewn perthynas â'r ddeiseb.
Nododd y Pwyllgor y ddau bapur.
Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan y Gweinidog Plant a Gofal Cymdeithasol, Albert Heaney, a Nigel Brown.
Derbyniwyd y cynnig.
Trafododd y Pwyllgor y dystiolaeth a glywyd a chytunodd ar y camau a ganlyn:
· ysgrifennu at y Gweinidog Plant a Gofal Cymdeithasol i ofyn am ragor o fanylion am fwriad Llywodraeth Cymru a CAFCASS Cymru yn y dyfodol i ddiwygio polisïau a llwybrau mewn perthynas â dieithrio plentyn oddi wrth riant, gan gynnwys hyfforddiant i staff; a
· cheisio barn y deisebwyr am y dystiolaeth ddiweddar a gafodd y Pwyllgor.
Cytunodd y Pwyllgor ar yr Adroddiad gyda rhai mân newidiadau.